Home > Uncategorized > Cyfarfodydd i drafod materion traffig yn Llanelli

Mynychais bedwar cyfarfod heddiw gan drafod pryderon ynghylch traffig ym mhob un ohonyn.

Yn gyntaf, mynychais gyfarfod yn ymwneud â’r problemau tu allan i Ysgol Bryn Teg. Yna, mynychais gyfarfod gyda Phenaethiaid y Coleg a’r ysgol ynghylch lleihau traffig yn enwedig ar Heol Sandy. Yna, roedd cyfarfod i drafod problemau yn ymwneud â goryrru yn Nyffryn y Swisdir gyda’r cyfarfod olaf yn trafod traffig a llifogydd ar Heol Caerfyrddin, Cross Hands.

Byddaf yn gweithredu ar y materion a godwyd gan wneud yn si?r fy mod i’n eich diweddaru ynghylch unrhyw gynnydd.