Home > Uncategorized > Cefnogi perchnogion c?n a’r ymgyrch dros dân gwyllt distaw

Roeddwn wrth fy modd yn ymuno â pherchnogion wrth iddyn gerdded eu c?n ym Mhorth Tywyn heddiw gan gael y cyfle i gefnogi ymgyrch tân gwyllt distaw Angela Wood a Jan Morgan. Bwriad yr ymgyrch yw cefnogi arddangosfeydd tân gwyllt cyhoeddus ac i annog y defnydd o dân gwyllt distaw ymysg preswylwyr yn eu harddangosfeydd personol (gan sicrhau bod y tân gwyllt yn cael eu trin â gofal wrth gwrs)

Dysgais fod arddangosfeydd pert yn bosib heb yr angen am s?n enfawr sy’n gallu achosi problemau difrifol i anifeiliaid a’u perchnogion. Ac, wrth gwrs, mae tanio rocedi tân gwyllt yn dod yn ddigwyddiad cyson i rai ac mae hyn yn golygu nad yw perchnogion anifeiliaid anwes yn gallu paratoi o reidrwydd.