Roeddwn wir yn gofidio wrth glywed nad oedd gwasanaeth Meddyg Teulu gyda’r hwyr yn Ysbyty Tywysog Phillip wedi canol dydd ar ddydd Sul o ganlyniad i brinder Meddygon teulu.
Mae’n hollol bwysig ein bod ni’n cadw’r gwasanaeth Meddyg Teulu gyda’r hwyr ar agor yn Llanelli gan fod hyn yn galluogi; triniaeth i gael ei roi ar unwaith, symptomau difrifol i gael eu hadnabod a sicrwydd iechyd i gleifion pryderus. Ni ddylai unrhyw un gorfod cludo aelod sâl o’i deulu’r holl ffordd i Gaerfyrddin ac yn ôl, yn enwedig yn yr amodau gaeafol y buom yn eu dioddef dros y penwythnos.
Byddaf i a Lee Waters AC yn rhoi pwysau ar Fwrdd Iechyd Hywel Dda i esbonio pam y galluogwyd i’r sefyllfa hyn codi a beth maent yn ei wneud i sicrhau na fydd yr un sefyllfa yn codi eto. Mae hefyd rhaid iddyn nhw egluro sut y maent yn bwriadu sicrhau bod y gwasanaeth craidd hwn yn cael ei gadw yn Ysbyty Tywysog Phillip.