Home > Uncategorized > Brwydro dros gadw gwasanaethau Twll yn y Wal LINK

Hoffwn ddymuno Dydd Gw?l Dewi hapus i bawb. Fel dywedodd Dewi Sant: gwnewch y pethau bychain. Dweud y gwir, dyma pam cefais fraw mis diwethaf wrth ddarllen bod rhwydwaith pwyntiau twll yn y wal lle gellir codi arian am ddim y DU o dan fygythiad o ganlyniad i reolau newydd gan LINK, y rhwydwaith Twll yn y Wal. Wedi blynyddoedd o gau banciau cefn gwlad a swyddfeydd post, mae’r twll yn y wal lleol yn adnodd allweddol i breswylwyr lleol, yn enwedig yr henoed a rheiny sydd heb geir. Byddai colli’r rhwydwaith hwn yn golled difrifol iawn.

Mae hyn yn fater sy’n effeithio Cymru’n benodol gan fod gennym nifer o drefi bychain mewn ardaloedd cefn gwlad lle mae eisoes prinder o beiriannau twll yn y wal ac mae banciau wedi bod yn 3x mwy tebygol o gau eu canghennau i’w gymharu â De-ddwyrain Lloegr neu Lundain dros y blynyddoedd diwethaf. Rwy’n falch bod LINK yn addo gwneud pob dim sydd ei angen er mwyn iddyn nhw allu cadw peiriannau Twll yn y Wal ar agor mewn cymunedau difreintiedig a chymunedau cefn gwlad lle mae dibyniaeth ar arian parod, ond, byddaf yn cadw llygad barcud ar y sefyllfa’n lleol gan roi pwysau ar LINK i aros yn glwm i’w addewid o gefnogaeth.