Home > Uncategorized > Cefnogi caniatâd tybiedig ynghylch rhoi organau

Fel arfer, rwy’n dychwelyd i Lanelli ar ddydd Gwener ond heddiw oedd un o ddyddiau Gwener y flwyddyn lle mae cynigion preifat aelodau o’r senedd yn cael eu trafod yn San Steffan. Felly, roeddwn yna yn sicrhau bod gennym ddigon o Aelodau Seneddol sy’n gefnogol i gynnig Gefforey Robinson AS. Mae ei gynnig yn galw am estyn yr egwyddor o ganiatâd tybiedig ynghylch rhoi organau yn Lloegr. Fel yr wyddoch o bosib, dyma’r sefyllfa yng Nghymru eisoes lle mae’r Llywodraeth Llafur wedi arwain y ffordd.

Neithiwr, fe glywom rai straeon dwys gan ddoctoriaid a phobl sydd â theulu sydd wedi cael eu heffeithio gan; y system rhoi organau, prinder organau neu sydd wedi gwneud y penderfyniad ynghylch rhoi organau aelod o’r teulu wedi marwolaeth drasig. Heddiw, rwy’n falch o gyhoeddi bod y cynnig wedi pasio ei ailddarlleniad.