Home > Newyddion > Sefyll i fyny dros swyddi yn BAE systems

Nia Griffith AS, Llefarydd yr Wrthblaid dros Amddiffyn, yn ymateb i’r newyddion bod BAE am waredu ar 2000 o swyddi ledled y wlad –

“Mae hyn yn newyddion anffodus ar gyfer y gweithwyr a’u teuluoedd. Dyma gweithwyr mentrus iawn a bydd y posibilrwydd o golled swyddi yn cael effaith ofnadwy arnyn nhw, eu heconomiau lleol a chadwynu cyflenwi ehangach.

Rhaid i’r Llywodraeth ymateb yn gyflym gyda chynllun clir i sicrhau’r swyddi hyn yn BAE, yn ogystal â strategaeth ddiwydiannol amddiffyn briodol i roi’r sicrwydd sydd ei angen ar y diwydiant. Mae’n rhaid iddynt ystyried y posibilrwydd o gyflwyno archebion i ddarparu gwaith ychwanegol i weithwyr BAE, megis amnewid fflyd awyrennau Hawk yr Red Arrows. “