Home > Newyddion > Sefyll i fyny dros ein Hysbyty

Fel ymateb i bryderon am ddyfodol y gwasanaeth meddygol tu allan i oriau yn Ysbyty’r Tywysog Philip lle y gallwch chi fynd pan nad yw eich meddygfa ar agor, cysylltais gyda’r Bwrdd Iechyd yn syth. Nid ydym ni yn mynd i ganiatau unrhyw erydiad o wasanaethau. Ar ôl siarad gyda Dirprwy Brif Weithredwr y Bwrdd Iechyd, rwy’n deall bod cau rhai bylchau yn y system drethol yn golygu y bydd yn rhaid i feddygon sy’n darparu’r gwasanaeth meddygol tu allan i oriau yn Ysbyty’r Tywysog Philip a ardaloedd eraill dalu mwy o dreth ar yr ennillion hynny, ac y gofid yw gallai hyn ei wneud yn llai deniadol i wneud y gwaith. Pwysleisiais bod angen i’r Bwrdd Iechyd wneud popeth y gallent i sicrhau eu bod yn parhau i ddenu meddygon i wneud y gwaith. Rhaid iddynt fod yn rhagweithiol ynglyn â sicrhau gwasanaethau meddygon a chynnig telerau ac amodau, patrwm sifft ac ati sy’n denu meddygon. Pwysleisiais dro ar ôl tro fod rhaid i ni gadw’r gwasanaeth hwn yn Llanelli ac y byddai disgwyl i bobl i fynd i Glangwili ddim yn dderbyniol. Byddaf yn cadw’r pwysau arnyn nhw, a byddaf yn gofyn am ddiweddariadau rheolaidd.