Home > Uncategorized > Rhaid i dai newydd fod yn fforddiadwy

Nia in BBCR4 studio

Wrth siarad ar raglen ‘Westminster Hour’ BBC Radio 4 neithiwr, dywedodd Nia,

“Yn ddiweddar, mae Ysgrifennydd Cymunedau’r Llywodraeth, Sajid Javid, yn dechrau deall beth mae Llafur wedi bod yn dweud  – ei fod yn gwneud synnwyr i fenthyca i fuddsoddi mewn seilwaith megis tai fforiadwy o angen, yn enwedig ar adeg pan fo cyfraddau llog yn isel. Ond mae angen iddynt fod yn dai sy’n wirioneddol fforddiadwy i’w prynu a’u rhentu. Y llynedd, dechreuwyd adeiladu ar dim ond 1,000 o gartrefi ar gyfer rhent cymdeithasol, lle adeiladwyd 40,000 ym mlwynydd olaf llywodraeth Llafur. ”

Ac ar Universal Credit, dywedodd Nia,
“Dim ond oherwydd bod Llafur wedi arwain dadl yr wythnos diwethaf ar Universal Credit, mae’r Llywodraeth hyd yn oed yn meddwl am leihau’r aros rhwng chwe wythnos a phedwar, ond mae hyd yn oed pedair wythnos yn rhy hir i bobl sy’n byw o ddydd i ddydd.”

Codwyd ddadl gan Lafur yr wythnos diwethaf i alw ar y Llywodraeth i ailystyried y cyflwyniad trychinebus o Universal Credit, sydd wedi bod yn llawn problemau ac wedi gadael pobl yn newynog ac yn wynebu dadfeddiant.