Home > Uncategorized > Diogelu’r Amddiffynwyr

Nia Griffith MP with Protect the Protectors campaigners

Mae dydd Gwener fel arfer yn ddiwrnod o fusnes yn yr etholaeth, ond heddiw rwyf yn aros yn y Senedd i sicrhau ein bod yn cael y 100 AS sy’n anghenrheidiol i ni sicrhau cam nesaf mesur aelod preifat Chris Bryant AS, y Mesur Ymosodiadau ar Weithwyr Brys. Byddai’r mesur hwn yn gwneud ymosodiadau ar gweithwyr brys, megis diffoddwyr tân, yr heddlu, parafeddygon a nyrsys yn drosedd benodol, ac felly’n helpu i amddiffyn yr rhai sy’n darparu’r gwasanaethau hanfodol hyn i ni.