Home > Newyddion > Glawlif yn atal llifogydd ac yn cynnal prosiectau cymunedau

Pleser yn ddiweddar oedd ymuno â chynrychiolwyr grwpiau cymunedol sydd wedi derbyn grantiau o Gynllun Glawlif D?r Cymru. Rwy’n gwybod y bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio’n dda er lles y gymuned. Pleser annisgwyl hefyd oedd gweld maint a golwg dymunol y pant o flaen Teras Park View a grewyd gan D?r Cymru fel rhan o gynllun Glawlif. Amcan y cynllun yw arafu llifogydd d?r ar wyneb-y-ffordd pan fo glaw trwm, di-baid fel ni chaiff y garthffosiaeth ei gor-lwytho – ac felly lleihau perygl llifogydd a’r angen i waredu carthion i mewn i Gilfach Porth Tywyn. Dyma fuddsoddiad sylweddol gan D?r Cymru yn Llanelli.