Home > Newyddion > Diwrnod y Lluoedd Arfog 2017

Pleser oedd cael mynychu’r seremoni ar gyfer Diwrnod y Lluoedd Arfog i godi baner dros Neuadd y Dref yn Llanelli. Roedd y faner yn hedfan drwy’r wythnos a thros y Sadwrn a’r Sul i ddathlu Diwrnod y Lluoedd Arfog ar Ddydd Sadwrn 24 Mehefin a Diwrnod y Milwyr Wrth Gefn ar Ddydd Mercher 21 Mehefin.
Mae Diwrnod y Lluoedd Arfog yn gyfle arbennig i’r gymuned ymgasglu er mwyn dathlu y dynion a’r menywod yn ein Lluoedd Arfog, y cyn-filwyr a theuluoedd y Lluoedd Arfog a diolch iddynt am yr holl waith a wnânt drosom.
Fel llefarydd Llafur ar Amddiffyn rwyf wedi cael y fraint o ymweld â llawer o aelodau’r Lluoedd Arfog, yn y wlad hon a thramor, ac wedi gweld y gwaith gwych maent yn cyflawni. Hoffwn ddiolch iddynt a byddaf yn dal i frwydro am ell gytundeb iddynt ar gyflog, tai a lles. Cynhelir digwyddiadau ar draws y DU i ddathlu diwrnod y Lluoedd Arfog a byddwn yn annog pawb i ddangos eu cefnogaeth a dysgu mwy am waith ein Lluoedd Arfog.