Home > Newyddion > TWP FYDDAI TORIADAU DWP!

Dicter yw f’ymateb i gyhoeddiad syfrdanol cau swyddfeydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn Llanelli dywedodd Nia Griffith AS.

“Mae’r bwriad i gau swyddfeydd DWP yn ergyd enfawr i weithwyr a’u teuluoedd yma yn Llanelli. Mae cynlluniau y Llywodraeth Dorïaidd hon i newid y drefn budd-daliadau’n annibendod llwyr ac nid nawr yw’r amser i golli  gweithwyr o brofiad.  Nid yw ddim yn esgus bod adleoli staff yn ymarferol – os ydynt yn cael cynnig llefydd fel Caerdydd neu ymhell lan y cymoedd – ni fydd hwnnw ddim yn ymarferol i lawer o bobl â galwadau teuluol.

Heblaw hyn, mae swyddi yng nghanol y dref yn angenrheidiol yn Llanelli a bydd hwn yn golygu ergyd arall i ganol y dref a’r economi  leol yn gyffredinol. Mae’n rhaid ymladd yn erbyn hyn bob cam o’r ffordd a byddaf yn pwyso ar weinidogion Llywodraeth y DU i weithredu ar frys”