Home > Newyddion > LLAFUR I WARIO O LEIAF 2% CYNNYRCH DOMESTIG GROS (GDP)  AR AMDDIFFYN

Wrth ymateb i adroddiad Sefydliad Rhyngwladol Astudiaethau Strategol ar Gadw Cydbwysedd Milwrol, dywedodd  Nia Griffith AS, Llefarydd Llafur ar Amddiffyn,

 “Dengys yr adroddiad  yn eglur  methiant llwyr a syfrdanol  y llywodraeth i gynnal ei hymroddiad at wariant amddiffyn ar ein Lluoedd Arfog ac i’r wlad. Wythnosau ar ôl i’r Prif Weinidog roi darlith i’n cyfeillion am gynyddu gwariant er mwyn cyrraedd ymroddiad 2% NATO, mae’n amlwg erbyn hyn bod ei Llywodraeth yn anfodlon neilltuo’r adnoddau sy’n eu hangen ar gyfer amddiffyniad ein cenedl.

Fel mae’r Pwyllgor Dethol ar Amddiffyn wedi dangos yn barod, nid oedd yr MoD ddim ond megis wedi crafu dros y nod o 2% ac wedi newid ei ffordd o gyfrif er mwyn creu’r rhith bod yr ymroddiad mewn cyrraedd. Mae gwario llai na 2% GDP ar amddiffyn yn hollol annerbyniol yn enwedig mewn cyfnod o ansicrwydd byd-eang, Ymroddiad Llafur yw gwario o leiaf 2% GDP ar wariant amddiffyn, fel y gwnaethom yn gyson pan oeddem mewn grym.”