Home > Newyddion > Collfarnu Gwaharddiad Trump ar Deithio

Gan siarad yn blwmp ac yn blaen yn ystod cwestiynau amddiffyn yn Nh?’r Cyffredin, galwodd Nia Griffith AS am ymateb gyhyrog i Trump. Dywedodd

“Dros y penwythnos  cawsom ein syfrdanu a’n sobreiddio gan benderfyniad yr Arlywydd i osod gwaharddiad di-amod ar hawl teithio dinasyddion saith cenedl Mwslemaidd. Mae gwneud hwn ar Ddydd Gwener –  Diwrnod Cofio’r Holocost  – yn dwysau’r erchyllterau a deimlwn.

A ydyw’r Ysgrifennydd Amddiffyn wedi ei wneud yn glir wrth ei gyfatebydd  yn yr Unol Daleithiau bod hwnnw’n wrthun wrth frwydro yn erbyn terfysgiaeth?  Bod gweithredoedd o’r fath yn cynyddu’r tensiynau ac yn peryglu cydweithrediad ffrindiau gwerthfawr megis Irac sy’n gytun â ni yn y frwydr  yn erbyn Daesh?

Lefarydd, mae llawer ohonom yn teimlo embaras ac mae arnom  gywilydd , bod ein Prif Weinidog er gwaethaf ei rhethreg am Brydain fel arweinydd y byd, wedi penderfynu cysuro yn hytrach na cheryddu.

Yn y pen draw, llipa oedd yr ymateb “nid ydym yn cytuno.” Yn enwedig mewn gwrthgyferbyniad â’r Canghellor carcus Angela Merkel a danlinellodd “nid yw hyd yn oed brwydr angenrheidiol penderfynol yn erbyn terfysgiaeth yn cyfiawnhau rhoi pobl o dras arbennig neu gredo tan amheuaeth gyffredinol.’

A gawn ni, yn y T? Cyffredin, sicrwydd yr Ysgrifennydd Gwladol, bod tramgwyddo cyfraith rhyngwladol  a sarhau gwerthoedd dynoliaeth oherwydd gorchmynion yr Arlywydd Trump ar bynciau sy’n perthyn i amddiffyn, yn arwain at ymateb Llywodraeth yr DU  sy’n brydlon, gyhyrog  a di-flewyn-ar dafod.