Home > Newyddion > Canlyniad pleidlais TATA

Wrth sylwi ar ganlyniad pleidlais TATA, dywedodd Nia Griffith AS,

“Wynebodd y gweithwyr benderfyniad anodd iawn, naill ai i aberthu rhan o’u pensiynau haeddiannol neu weld TATA;n tynnu allan.   Penderfynodd y mwyafrif i dderbyn y cynigion. Nawr cyfrifoldeb TATA yw cadw’r addewidion a buddsoddi yn y gwaith modern hwn er mwn ennill y blaen cystadleuol a diogelu dyfodol y diwydiant dur yma yn Llanelli ac ar draws y DU. Mae angen hefyd eisiau ar Lywodraeth Prydain i ddechrau cydnabod ymroddiad enfawr y gweithwyr ac i wneud rhywbeth i gynnal y dwydiant dur . . . Ychydig truenus ’rydym wedi gweld oddi wrthynt hyd yn hyn.. Mae angen ar weinidogion y Llywodraeth i roi dur yng nghanol strategaeth diwydiannol y DU ac i leihau y dreth ar carbwn ac i fynd i’r afael â chostau uchel ynni, er mwyn i gynhyrchwyr fel TATA deimlo’n ddigon hyderus i ddal i fuddsoddi yma.”