Yn sgil cyfarfod â gweithwyr dur, Trostre, yr wythnos diwethaf, yr wyf unwaith eto wedi mynd at rheolwyr TATA i ofyn a oes unrhyw ffordd y gallant wneud y dêl ar y ford yn fwy derbynniol i weithwyr. Tra bod pawb ohonom yn deall pwysigrwydd y gwaith dur i’r economi leol, pan fo’r ffeithiau a ffigyrau yn glir o flaen ein llygaid am yr hyn a olygir wrth doriadau pensiwn yn enwedig i weithwyr h?n, mae’n eglur pam fod ganddynt bob hawl i ddicter – a gan ystyried bod y toriad hwn ar ben y toriad o 25% mewn pensiynau a oedd yn rhaid iddynt dderbyn dim ond 18 mis yn ôl. Nid oes dim rhyfedd eu bod yn ddrwgdybus yngl?n ag addewidion y cwmni gan deimlo eu bod yn cael eu bwlio i dderbyn cynnig TATA nad ydynt ddim ond am i dorri nôl ar eu cyfrifoldebau am bensiynau. Yn arbennig gofynais i TATA i ystyried ychydig o drefnadau blaenfain ar gyfer y gweithwyr sy’n dioddef mwyaf gan fod eu pen-blwydd yn disgyn ychydig ar yr ochr anghywir i ddyddiadau’r newidiadau.