Home > Newyddion > Nia yn rhoi cyfweliad yn y Mirror

Mae Nia wedi rhoi ei chyfweliad cyntaf i bapur newydd cenedlaethol ers iddi gael ei phenodi’n Llefarydd Llafur ar amddiffyn.  Yn ei chyfweliad â’r Mirror trafododd Nia wariant amddiffyn, system amddiffyn Trident a’i chynlluniau  i ymweld â milwyr y DU sydd yn Cyprus.

Dywedodd Nia wrth y Mirror: “Pan oedd Llafur mewn grym ‘roedd gwariant ar amddiffyn yn gyson yn uwch o lawer nag ymrwymiad NATO o 2%. Ond ers 2010 mae cyllideb anddiffyn wedi derbyn toriadau sylweddol.

“Mae’r Llywodraeth wedi bod yn brysur esgus  eu bod yn cyflawni’r hyn a’r llall  pan, mewn gwirionedd, maent wedi bod yn gyfrwys iawn  – mae’r ffaith eu bod yn cymryd arnynt eu bod yn gwario 2% ar amddiffyn  ond mewn gwirionedd elfen enfawr o hwnnw yw gwariant ar bensiynau.  Er mor bwysig mae pensiynau nid ydynt yn cyfrannu at ein gallu amddiffyn. Maent yn ein twyllo, yn taflu llwch i’n llygaid,  yn chwarae hen driciau.”