Wrth sylwi ar y newyddion bod TATA yn aros yn y DU, dywedodd Nia Griffith AS,
“Ar ôl misoedd o bryder ac ansicrwydd, testun croeso yw clywed bod TATA yn aros yn y DU ac yn buddsoddi ym Mhorth Talbot gan helpu sicrhau swyddi nid yn unig ym Mhorth Talbot ond hefyd yn Nhostre, Llanwern a Shotton. Ond mae’n dod â phris i’r gweithwyr ac yn ergyd i’w pensiynau. Mwy nag erioed, mae angen arnom Llwodraeth y DU sy’n datblygu strategaeth ddiwydiannol go iawn er mwyn sicrhau dyfodol hir-dymor i’r diwydiant dur – golyga hwn fynd i’r afael â phrisiau ynni uchel gan leihau treth carbwn ac atal cystadleuaeth annheg gan fewnforion o Tsieina. Mae ansicrwydd yngl?n â’r dyfodol yn rhoi pwysau ar weithwyr yn ogystal â rhwystro gallu’r diwydiant i gynllunio am y dyfodol ac erbyn hyn mae’n hanfodol bod y Llywodraeth yn glir am ei strategaeth Brexit gan sicrhau ein bod yn cael mynedfa i’r farchnad sengl.”