Mae disgyblion ysgolion lleol wedi rhoi hwb arbennig i’r Nadolig eleni wrth lunio cardiau Nadolig i AS ac AC yr ardal sef Lee Waters AC a Nia Griffith AS. Cawsant y ddau bleser mawr i weld cynigion cannoedd o ddisgyblion o bob cwr o etholaeth Llanelli. Hoffent ddiolch i Parker Plant Hire am noddi’r gystadleuaeth eleni ac i Fay Hampson am ei chymorth ac am drefnu ac arddangos y cardiau: derbynia’r enillwyr gopi’r llun mewn ffrâm a derbynia’r ysgolion buddugol wobr arian. Thema eleni oedd portreadu golygfa Nadolig lleol. Cafodd y gwaith caled o ddewis yr enillwyr ei wneud gan Tom Swain, arlunydd lleol, Angela Thatcher, cynllunydd, a Chrissie Lackey, Llanelly House.
Enillydd yr adran iau yw Anya Evans Ysgol Parc y Tywyn, a dynnodd llun manwl iawn o Neuadd y Dref, Llanelli ac enillydd adran y babanod yw Serenity Adams- Sargeant, a’i llun o Gastell Cydweli. Eilyddion yn adran y babanod yw Lola King, Levitt Rees a Ruby O’Neil ac yn yr adran iau Kaylin Powell, Ffion Hughes a Steffan Evans. Bydd eu lluniau, ynghyd â detholiad o luniau a dderbyniodd ganmoliaeth arbennig gan y beirniaid, yn cael eu harddangos yn Llanelly House o Ddydd Sadwrn y 3ydd Rhagfyr hyd at y Nadolig.