Home > Newyddion > Pobl y Post – diolch yn fawr, medd Nia

Ymwelodd Nia Griffith AS â Swyddfa Dosbarthu Llanelli i weld dros ei hunan sut oedd dosbarthu Post y Nadolig ac i roi Cyfarchion y Tymor i’r gweithwyr diwyd a chydwybodol.

Cafodd AS Llanelli ei thywys o gwmpas y swyddfa gan Reolwr y Swyddfa Dosbarthu, Anthony Pridmore, a chyfarfod â’r dynion a’r menywod sy’n gwneud eu gorau glas i ddidoli a dosbarthu’r post yn yr ardal leol dros gyfnod y Nadolig.

 Tymor yr ?yl  yw adeg fwyaf prysur y Post Brenhinol gan fod miliynau o bobl yn siopa arlein  am anrhegion ac yn danfon cardiau Nadolig a pharseli.

Fel ein bod yn agosau at ddiwedd dathlu benblwydd 500 y Post Brenhinol, mae’r Nadolig yn cynnig cyfle i fyfyrio  ar ganrifoedd o waith caled ynghlwm â chyflenwi post at bob un cyfeiriad yn y DU.

Dywedodd Nia: “Cefais fy nharo wrth ymweld â swyddfa dosbarthu Llanelli ym Mis Tachwedd ar y mynydd o becynnau sydd yno. Golyga’r cynnydd mawr mewn pobl yn siopa arlein yn barod i’r Nadolig  bod cyffro’r  Nadolig yn dechrau yn gynharach nag arfer  o lawer.  Hoffwn ddiolch i weithwyr y Post am gymaint maent yn gwneud i wneud yn siwr bod yr holl anrhegion yn cael eu dosbarthu’n ddiogel ac hwnnw cyn dechrau ar y cardiau.   A dyna heb sôn am y gwasanaeth gwych ’rydym  yn derbyn trwy gydol y flwyddyn.”

Dywedodd Anthony Pridmore, Rheolwr Swyddfa Dosbarthu y Post Brenhinol, “Pleser oedd dangos Ms Griffith sut ydym yn gweithredu dros y Nadolig ac i glywed ei geiriau caredig hi o werthfawrogiad a chefnogaeth. ’Rydym yn ymfalchio yng waith caled ein gweithwyr post yn ystod tymor yr ?yl ac am ddal i gynnal ein traddodiad gwych o ddosbarthu post y Nadolig. “

Y dyddiau olaf sy’n cael eu hargymell ar gyfer y Nadolig yw:

Ail ddosbarth – Dydd Mawrth  20 Rhagfyr 2016

Dosbarth Cyntaf – Dydd Mercher 21 Rhagfyr 2016

Dosbarthu Arbennig  – Dydd Iau 22 Rhagfyr 2016