Home > Newyddion > Disgyblion Ysgol Penbre’n ymweld â’r Senedd 

Mae disgyblion o Ysgol Penbre wedi ymweld â’r Senedd yn ddiweddar. Yn ystod eu hymweliad cawsant fwynhau daith gyflawn o gwmpas y Senedd gan fynd mewn i’r T? Cyffredin a gweld lle ’roedd yr ASau yn eistedd a lle yn union ’roedd y Prif Weinidog ac Arweinydd yr Wrthblaid yn sefyll yn ystod cwestiynau i’r Prif Weinidog., yn ogystal â lle ’roedd yr ASau yn bwrw pleidlais.    Gwelsant gyfweliadau teledu’n digwydd yn y Lobi Canolog a gobaith sawl disgybl oedd cael serennu yn y cefndir fel ecstras.

Ar ôl eu taith o gwmpas y Senedd, cawsant drafodaeth â Nia Griffith AS yngl?n â sut oedd ASau yn trafod pynciau ac yn penderfynu ar ba ddeddfau sydd eu hangen arnom ac ar beth y dylem wario ein harian. Yna, cafodd y disgyblion gyfle i drafod ac i bleidleisio  o blaid neu yn erbyn  codi trydydd rhedfa ym Maes Awyr Heathrow.

Gan sylwi ar yr ymweliad, dywedodd Nia Griffith AS,

“ Pleser pur oedd cyfarfod â disgyblion Ysgol Penbre.  ’Roedd ganddynt ddiddordeb byw mewn gweld sut mae’r Senedd yn gweithredu, a gwnaethant argraff dda  arnaf yn eu cyfraniadau  deallus i’r drafodaeth ar y dadleuon dros ac yn erbyn codi trydydd rhedfa ym Maer Awyr, Heathrow.  Gallaf weld bod gennym to o bobl ifanc nad oes ofn arnynt siarad dros eu cymunedau a thros eu daliadau a mynegaf  iddynt y dymuniadau gorau am y dyfodol.”