Home > Newyddion > Cofeb newydd i gofio’r rhai a laddwyd mewn brwydrau diweddar 

Mae Dydd y Cofio yn amser i ddwyn i gof y rhai yn y lluoedd arfog a gyflawnodd yr aberth olaf, gan arberthu eu bywydau yng ngwasanaeth ein gwlad, ac yma yn Llanelli er gwaetha’r tywydd mae pob amser teyrnged ardderchog ar gyfer y gwasanaeth ar dir Neuadd y Dref, Ond dyma amser arbennig o deimladwy i deuluoedd a chyfeillion gyda chof byw o’r rhai annwyl  a gollwyd   ac yn arbennig o deimladwy wrth iddynt gerdded ymlaen gydag urddas i osod eu torch bodau ar y cofgolofn rhyfel.      .

Eleni, am y tro cyntaf, mae enwau y rhai a laddwyd yn y blynyddoedd diweddar i’w gweld ar gofeb newydd a godwyd wrth ymyl y cofgolofnau eraill ar dir Neuadd y Dref.   Mae’r gofeb newydd i gofio’r pymtheg o’r lluoedd arfog o Lanelli a gafodd eu lladd mewn wyth brwydr ers diwedd yr Ail Rhyfel Byd, gan gynnwys y mwyaf diweddar yr Is-Gorpral Ryan Francis a laddwyd yn Iraq a’r Is-Gorporal David Dennis a’r Corporal Jamie Kirkpatrick a laddwyd yn Afganistan.  Braint yw mynychu gwasanaeth arbennig i ddadorchuddio a chysegru’r gofeb newydd hon. Hoffwn ddiolch ar ran pob un ohonom i’r rhai sydd wedi gweithio’n galed ac wedi rhoi yn hael er mwyn i ni gael cofeb addas i’r dynion dewr hyn.

Ond fel cawn ein hatgoffa gan y Lleng Brydeinig, nid ydym yn gwisgo’r Pabi Coch er mwyn cofio am y rhai a laddwyd yn unig ond i gofio yn ogystal am y rhai sy’n gwasanaethu heddiw – gan ddangos ein bod yn ddiolchgar iddynt am eu gwasanaeth a bod Cyfamod y Lluoedd Arfog yn sicrhau’r gallu i dderbyn gwasanaethau teilwng sydd eu hangen. Dyna ein cyfrifoldeb