Home > Newyddion > “Ar Eich beic!” AS Lleol Nia Griffith ac AC Lee Waters yn Codi Arian i Apêl y Pabi  y Lleng Brydeinig Frenhinol

Yn ddiweddar, rasiodd cynrychiolwyr lleol Nia Griffith AS a Lee Waters AC, ynghyd a Chyfarwyddwr Cyffredinol y Lleng Brydeinig Frenhinol yn erbyn y cloc i godi arian ar gyfer Apêl flynyddol y Pabi y Lleng Brydeinig Frenhinol.

Cynhaliwyd y daith beic 12 awr o hyd o 08:00 i 20:00 yn Senedd San Steffan ac o Senedd y Cynulliad er mwyn codi arian at Apêl Genedlaethol y Pabi. Yr unig etholaeth lle ’roedd yr AS a’r AC yn cymryd rhan oedd Llanelli, gyda Nia Griffith a Lee Waters yn mynd ar y beic 

cyn belled â gallasant mewn 5 munud. Cyflawnodd Nia 1.33 milltir a Lee 2.15 milltir.       

Trefnwyd y daith beic gan Ymddiriedolaeth Diwydiant a’r Senedd mewn cydweithrediad â’r Lleng Brydeinig Frenhinol. ‘Roedd y cyfanswm o 133 milltir yn well na’r cyfanswm yn 2015 (lle cyflawnodd 77 AS ac Arglwyddi gyfanswm o 128.8 milltir ymhen 12 awr).   

Nôd y ddwy Senedd rhyngddynt yw teithio ar feic o San Steffan i’r Somme yn Ffrainc i nodi canmlwyddiant eleni Brwydr y Somme.

Annogwyd ASau i roddi wrth gymryd rhan gyda’r arian a godwyd y diwrnod hwnnw yn mynd tuag at helpu y Lleng Brydeinig Frenhinol ddarparu cynhaliaeth gydol oes i gymuned y Lluoedd Arfog. Apêl y Pabi yn y Senedd Ganolog yw unig elusen â’r hawl i  godi arian yn y Senedd.

Dywedodd Lee Waters:

“Mae Nia a fi’n beicio’n gyson ac felly mwy o hwyl na chwys oedd yn perthyn i’r her hon.  Cyfle gwych oedd i godi ymwybyddiaeth o waith y Lleng Brydeinig yn Llanelli ac ar draws y wlad”.

Ychwanegodd Nia Griffith:

“Eleni mae’r Lleng Brydeinig yn amlygu yr ymgyrch Ailfeddwl am Gofio sy’n gofyn i ni feddwl am gofio nid yn unig mewn cysylltiad â’r Rhyfel Byd Cyntaf ac Ail, ond yn ogystal â chendhedlaeth  o filwyr ac aelodau eraill y lluoedd arfog sydd eisiau ein cefnogaeth – ein braint ni yw rhoi’r cefnogaeth iddynt hwy.”