
Bydd trigolion Pentref Ffwrnes yn cwrdd am chwech o’r gloch ar Ddydd Gwener 14 Hydref yng Nghanolfan Gymunedol Ffwrnes, er mwyn trafod cais tan gronfa Llwybrau Diogel Mewn Cymunedau er mwyn gwneud Ffwrnes yn saffach, rhywbeth allai cynnwys mesurau gostegu traffig yn ffyrdd cyfagos megis Heolydd Cwmbach, Strade a Phentrepoeth.
Mae’r grant yn cael ei anelu at gymunedau sydd am ffyrdd mwy diogel ar gyfer cerddwyr a beicwyr a allai cynnwys cyllido mesurau gostegu traffig, croesfannau a gwella llwybrau cerdded a beicio.
Esboniodd Nia Griffith AS, “Pryder trigolion yw diogelwch plant wrth gerdded ar hyd Ffordd Cwmbach ar y ffordd i’r ysgol, ac mae pryder am gyflymder traffig yn dod ar garlam i mewn i’r pentref. Wrth gwrdd â swyddog priffyrdd y Cyngor, cawsom ddeall bod gan cymunedau gyfle nawr i gyflwyno ceisiadau er mwyn gwella diogelwch eu hardaloedd, a dyna pam mae’r cyfarfod yn cael ei gynnal Ddydd Gwener fel bod cyfle gan y trigolion mynegi barn.
Ychwanegodd y Cyng Penny Edwards,”Mae angen dirfawr arnom wneud y pentref yn saffach yn enwedig i gerddwyr a beicwyr a bydd llawer o gefnogaeth dros hyn yn y gymuned. Gyda thair ysgol a choleg yn gyfagos a chynnydd sylweddol yn nhraffig yn Scwâr Ffwrnes, credaf bod gennym achos cryf.”
Amcan y cyfarfod ar 14 Hydref yw rhoi cyfle i drigolion rhannu syniadau ar ba welliannau sy’n well ’da nhw. Byddai gweithlu’n cael ei sefydlu ac ymgynghoriad â thrigolion cyn bod cynigion a chais yn cael eu cyflwyno yn y flwyddyn newydd.
Os na allwch fod yn bresennol ond yn dymuno gwyntyllu eich syniadau neu gymryd rhan yn nes ymlaen, yna cysylltwch â Nia Griffith AS ar 01554 756374 neu ysgrifennwch at y cyfeiriad isod neu ebostiwch at nia.griffith.mp@parliament.uk gan gynnwys Furnace safe routes yn y llinell pwnc.