Home > Newyddion > AS yn gofyn am Eglurder ar rôl y DU ym Mosul 

Mae Nia Griffith AS  yn rhinwedd ei swydd fel Llefaryddd Llafur ar Amddiffyn wedi gofyn i Syr Michael Fallon  Ysgrifennydd Gwladol ar Amdiffyn am eglurder am rôl yr Awyrlu yn Iraq a sut bydd Mosul yn cael ei amddiffyn os a phryd caiff ei ad- ennill a darparu cymorth dyngarol ar gyfer ffoaduriaid

Wrh siarad yn Nh?’r Cyffredin, dywedodd,

“Mae arswyd Mosul ers ei chipio gan Daesh ym Mehefin 2014 yn angredadwy: menywod yn cael eu lladd am beidio gwisgo y gorchudd Islamaidd llawn a dynion hoyw yn cael eu taflu oddi ar adeiladau.  Mae’n rhaid cefnogi’r ymgyrch i ryddhau’r ddinas gan fod gan Daesh feddylfryd  cythreullig ac mae’n rhaid ei drechu. ’Rwyn datgan hynny nid yn unig i amddiffyn  pobl Iraq a Syria ond hefyd ein dinasyddion yma yn y DU oherwydd bygythiad byd-eang Daesh.

  Er fy mod yn derbyn yn llawn  nad yw’n bosib ddatgelu manylion gweithredol, byddwn yn gofyn i’r Ysgrifennydd Gwladol i esbonio maint rôl yr awyrlu a sut mae e’n bwriadu cyflwyno’r wybodaeth i’r t?  .

Mae nifer o luoedd arfog yn cynorthwyo gan gynnwys grwpiau arfog a ffigurau paramilwrol ond mae pryder am beth allai ddigwydd pe byddai rhai o’r grwpiau hyn mynd i mewn i’r ddinas. A ydyw’r awdurdodau Iraqi medru rhoi sicrwydd i’r Ysgrifennydd Gwladol mai dim ond y fyddin a’r heddlu  Iraqaidd a fydd yn mynd i mewn i Mosul?    Mae disgwyl i’r ymosodiad yma barhau am wythnosau ac yn bosib misoedd ond unwaith bydd wedi gorffen, bydd yn rhaid amddiffyn Mosul er mwyn gwneud yn siwr ein bod wedi cael gwared â Daesh unwaith ac am byth fel bod y ddinas ddim yn disgyn i sefyllfa o ymladd rhyng-grefyddol. A fydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn dwued wrth y T? am ba baratoadau sydd ar y gweill i amddiffyn y dinasyddion  ac i ail-adeiladu’r  ddinas?

A fydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn ogystal  yn rhoi manylion pellach am y cymorth dyngarol o’r DU yn y tymor fyr ac yn y tymor hir i ffoaduriaid?

Safwn yn gadarn yn erbyn Daesh a’i feddylfryd  cythreulig  a thros y lluoedd arfog dewr a fydd yn rhoi eu cymorth yn yr ymgyrch bwysig hon. “