Home > Newyddion > AS yn cyfarfod Gweinidog i drafod Cocos

Yn ddiweddar cyfarfu AS Llanelli Nia Griffith ac AC Lee Waters â Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd Amgylchedd Llywodraeth Cymru ynghyd â chynrychiolwyr gwleidyddol o ochr arall yr aber mewn ymgais i fynd ymhellach â phroblemau sy’n wynebu’r  diwydiant cocos lleol. Codwyd y pryderon parhaus am ddiffyg llwyddiant wrth ganfod achos marwolaethau’r cocos, dicter at broblemau carthffosiaeth a’r mater o drwyddedu.

Esboniodd Nia Griffith AS

 “Mae’n groes i bob rheswm bod cocwyr Cilfach Tywyn yn talu ffïoedd trwm am eu trwyddedau tra bod yn ardal y tair afon gyfagos, yr hyn sy’n debyg i benrhyddid. Dywedasom wrth y Gweinidog yn blwmp ac yn blaen nad ydym yn fodlon aros tan ddiwedd cyfnod y cytundebau trwyddedu a gofynasom iddi edrych ar hwn fel mater o frys er mwyn unioni’r sefyllfa, ac nawr mae hi wedi gofyn bod ei swyddogion yn cyflwyno iddi yr wythnos nesaf gynlluniau i ddiwygio’r system.”

Ychwanegodd Lee Waters AC

 “Gwyddom bod rhwystredigaeth ddofn a’r hyn sy’n debyg i ddiffyg cyfathrebu rhwng y cymdeithasau sy’n dibynnu ar gocos a chyrff megis Cyfoeth Naturiol Cymru, ac felly mae gennym gytundeb yn ogystal ein bod ni fel cynrychiolwyr etholedig yn gallu mynychu cyfarfodydd rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru a’r diwydiant ac ’rydym yn pwyso am i adolygiad Cyfoeth Naturiol Cymru gael ei  gyhoeddi erbyn y Nadolig.”