Siaradodd Nia Griffith AS mewn dadl yn ddiweddar yn Nh?’r Cyffredin am y rhan sydd gan y llywodraethau datganoledig yn y trafodaethau yngl?n â’r DU yn ymadael â ‘r UE.
Pwysleisiodd Nia ei fod yn holl bwysig bod Llywodraeth Cymru’n rhan o bob cam o’r drafodaeth i sicrhau nad yw Cymru’n colli allan mewn unrhyw ffordd, gan ddweud
“Mae’n hanfodol bwysig bod Cymru yn cael y cytuneb gorau posib ar fynediad i farchnadoedd yr UE ar gyfer ein busnes, ein diwydiant ac ein cynnyrch amaethyddol. Mae oddeutu 200,000 o swyddi’n dibynnu mewn rhyw ffordd ar yr UE, ac mae angen ar Lywodraeth Cymru fod wrth y bwrdd i gyfrannu at y cytundeb gorau posib er mwyn diogelu’r swyddi hyn. Ar ben hynny, mae pynciau megus pysgodfeydd ac amaethyddiaeth sydd wedi cael eu datganoli yn gyfan gwbl, ac nid oes felly dim yr un polisi amdanynt dros y DU.
“ ‘Rwyn pryderu’n arbennig am sylwadau diweddar yr Ysgrifenyddion dros yr Amgylchedd a dros Gymru. Gan Ysgrifennydd yr Amgylchedd Andrea Leadsom, clywsom yn ystod dadl y refferendwm, ‘Byddai mwy o synnwyr mewn gwneud caeau mawrion yn gyfrifol am ddefaid a ffermydd yr Ucheldiroedd am ieir bach yr haf. Byddai hwnnw’n synhwyrol yn y DU ac yn ymarferol hefyd ond i ni ymadael â’r UE a gwneud pethau fel ‘na i siwtio ein hunain.’ Nawr, gan fod rhan helaeth o Gymru yn cael ei hystyried yn fwy o her parthed ffarmio, yr ‘Ardaloedd â Chyfyngiadau Naturiol’ bondigrybwyll, mae awgrym arswydus bod yr Ysgrifennydd Gwladol newydd am weld diwedd ar gymorth-daliadau i ffermydd yr uchel-dir, gan ddarostwg Cymru i fod yn barc pili pala enfawr. Er ein bod yn ymfalch?o yn ein gwaith cadwriaethol yng Nghymru, byddai cam o’r fath yn drychinebus i’n cymunedau gwledig gan fod diwydiant ffarmio ffyniannus yn enaid a chalon yr economi lleol.
Yn ogystal ‘rwyn pryderu’n ddirfawr am yr ymateb a gefais oddi wrth Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Ynddi ’roedd yn glir ei fod yn awgrymu ail-feddwl yr egwyddor sylfaenol o gyfeirio cyllid at yr ardaloedd hynny sydd mwyaf mewn angen – ar hyn o bryd dyna sail Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop – cyllid sy’n hanfodol bwysig ar gyfer uwchsgilio ac adfywio yn y Cymoedd a gorllewin Cymru. Mae’n holl bwysig bod Llywodraeth Gymru’n rhan o bob cam er mwyn sicrhau nad yw Cymru ar ei cholled wrth i Brexit ddigwydd.”