
Yn ddiweddar ymwelodd Nia Griffith AS ac Eluned Morgan yr AC rhanbarthol ag Ysbyty’r Tywysoges Philip.
Esboniodd Nia Griffith AS:
“Yn ddiweddar cefais y fraint o ymweld ag Ysbyty’r Tywysoges Philip i weld y ‘prosiect blaen-t? newydd.’ Dyma’r buddsoddiad sydd wedi hwyluso adnabyddiaeth gyflym o gleifion sâl iawn a’u symud yn ddisymwth trwy’r Uned Derbyn Meddygol Dwys, gan eu gwahanu oddi wrth y rhai sy’n cael triniaeth mwy addas yn yr uned anafiadau llai difrifol. Da oedd clywed gan staff ymroddgar sut mae’r system yn gweithio.
Yn bwysicach, ac ar wahan, clywais adroddiadau gwych oddi wrth gyfaill ag oedd wedi bod yn ddiweddar yn yr uned Derbyn Meddygol Dwys gyda’i fam oedrannus. Cafodd argraff ffafriol o’i thriniaeth ac hefyd sylwodd ar y ffordd effeithiol ‘roedd y ffrwd gyson o gleifion newydd yn cael eu trin. . . . ac hyn,o ffrind allaf eich sicrhau, ni fyddai wedi bod yn araf i ddweud fel arall pe byddai pethau wedi bod yn wahanol.
Ni allwn fyth llaesu dwylo, gan fod pwysau mawr ar ein GIG, gyda chynnydd cyson ar gleifion hen, gwan, ac eiddil a phrinder staff mewn ambell man, ac ‘rwyn lobïo’n gyson y bwrdd iechyd lle bo angen. Eto i gyd, mae’n dda weld y prosiect ‘blaen–t?’ yn gweithio er lles cleifion Llanelli.
Cawn ymfalchïo yn y ffaith dengys diddordeb o bob cwr o’r wlad yn y modd bod clinigwyr wedi datblygu y system newydd hwn yn Llanelli, ac hefyd yn yr ymchwil sydd ar droed yn Ysbyty’r Tywysoges Philip. Llongyfarchiadau mawr i Dr Robbie Ghosal un o’r clinigwyr hynny ar gael ei benodi yn ddiweddar yn Gyfarwyddwr Ysbyty’r Tywysoges Philip a diolchiadau mawrion i bawb sy’n gweithio mor galed i ddarparu gofal iechyd o’r radd flaenaf i gleifion Llanelli.”