Home > Newyddion > Dathlu llwybr beiciau newydd  
M

M

Neidiodd Nia Griffith AS a Lee Waters AC ar eu beiciau ynghyd â Chynghorwyr Sir Gâr a selogion lleol i ddathlu agoriad swyddogol y darn newydd o’r llwybr beiciau o Benbre i gyfeiriad Cydweli. Wrth olrhain  y cyn rheilffordd, dyma lwybr hawdd ar gyfer beicio oddi ar yr hewl, ac mae’n ffrwyth cydweithio rhwng y Cyngor Sir, Sustrans  a’r loteri.  Ar ôl yr agoriad swyddol gan Arweinydd y Cyngor cafwyd ychydig o eiriau gan Lee Waters AC a Nia Griffith AS. Dywedodd Nia,

“ ‘Roeddwn yn awyddus i ledaenu’r neges nad oes yn rhaid fod yn athletwraig heini dros ben â lycra o’r corun i’r sawdl i fwynhau beicio. ‘Rwyn rhywun prysur ac rwyn hoff o feicio i gyrraedd llefydd – i’m swyddfa, i’r siopau,  i theatre Ffwrnes – mae’n ffordd o gadw’n iach, lleihau llygredd gan deimlo fy mod yn gwneud fy rhan fach i leddfu ergyd newid hinsawdd. ‘Rwyn gobeithio bod darparu llwybrau tebyg yn hwb i fwy o bobl beicio fel rhan o’u hamdden ac o’u gwaith.”