Home > Newyddion > Cefnogaeth dros Her Darllen Haf 2016.

Mae Nia Griffith AS eto flwyddyn yma yn dangos ei chefnogaeth i’r Her Darllen dros yr Haf i blant rhwng 4-11 oed.

Nod y rhaglen yw annog plant Ysgol Gynradd (4-11 oed) i ddarllen cymaint o lyfrau ac sydd yn bosib dros wyliau’r haf, gan yn draddodiadol mae safon darllen plant yn dueddol o ddisgyn ychydig wrth gymharu â gweddill y flwyddyn. Mae’r cynllun chwe wythnos yn cael i’w rhedeg yn annibynnol gan yr elusen ‘The Reading Agency’ gyda’r bwriad o annog darllen annibynnol ymysg y plant, ledled y DU, ac mae’r rhaglen yn cael i’w rhedeg yn 98% o lyfrgelloedd cyhoeddus. Pob blwyddyn mae’r her yn gosod thema, a blwyddyn yma i gyd-fynd a dathliadau Roald Dahl yn 100 mlwydd oed, ei brif themâu sydd wedi cael i’w dewis (cyfeillgarwch, antur, drygioni, dychmygion, ‘wordplay,’ a phencampwyr).

Esboniodd Nia; ‘Nawr bod gwyliau’r haf wedi cyrraedd, nid oes amser gwell i ehangu gorwelion ein plant na trwy ddarllen. Mae’r Her Darllen dros yr Haf yn ffordd arbennig i ddatblygu perthynas rhwng plentyn a llenyddiaeth, ac mae llenyddiaeth yn medru agor meddylfryd ein plant i fydoedd newydd. Blwyddyn yma mae’r themâu wedi ei seilio ar awdur gorau plant Cymru a’r byd Roald Dahl, ac nid oes cyfyngiad i feddylfryd plentyn ar ei thaith efo’r cymeriadau. Gyda safonau darllen yn dueddol o gwymp ychydig dros yr haf dyma ffordd arbennig o gadw safon darllen i fyny trwy hefyd archwilio deunydd newydd. Mae’r Her hefyd yn rhoi’r cyfle i blant ymweld ar cyflysterau arbennig sydd ar gael yn llyfrgell Llanelli ac ar draws yr etholaeth.’

Mae gan lyfrgell Llanelli cymaint i gynnig o ran cyflysterau i bob grwp oedran, ac nid oes syndod taw llyfgell Llanelli yw un o’r llyfrgellau mwyaf poblogaidd y DU. Mae gan y llyfrgell cymaint mwy o gyflysterau nag llyfrau i gynnig i’r gymuned a ardal coffi, a cymdeithasu mae’n man arbennig i gwrdd i bobl ifanc. Hefyd mae’r llyfrgell yn yn cynnig amrywiaeth o gyflysterau dysgu megis datblygu sgiliau Technleg Gwybodaeth, sydd yn berffaith i unrhywun sydd eisiau datblygu ei sgiliau cyfrifiadurol.