Home > Newyddion > Nia yn galw am derfyn ar yr ansicrwydd dros ddyfodol diwydiant dur Cymru

Mae Nia Griffith AS wedi galw ar Lywodraeth y DU i weithredu i achub diwydiant dur Cymru ac i roi terfyn ar yr ansicrwydd achoswyd gan Brydain ymadael â’r UE.
Wrth lefaru mewn dadl yn Nh?’r Cyffredin dywedodd Nia ei fod yn hen bryd i Lywodraeth y DU roi taw ar feio yr UE ac i wneud yr hyn sydd eu hangen i sicrhau bod dyfodol gan diwydiant dur Cymru.
Dywedodd Nia “Mae arnom angen eglurdeb parthed yr amserlen a gweithrediadu Brexit, mae angen arnom wybodaeth am y cytundeb sy’n dan olwg y Llywodraeth ac mae angen arnom drafodaeth glos iawn rhwng y Llywodraeth a’r diwydiant dur.
“Nid oes modd bellach rhoi’r bai ar yr UE. Mae angen arnom Lywodraeth sy’n creu’r amodau mwyaf ffafriol i’r diwydiant dur fel bod busnes yn dal i fuddsoddi yn y DU. Golyga hwn weithredu ar frys ar brisiau ynni gan drafod â threth garbwn, a gan osod mesurau pendant i amddiffyn ein llinellau cynhyrchu rhag mewnforion o Tsiena.“
Rhybyddiodd Nia yn erbyn y perygl bod yr uno arfaethedig rhwng TATA a ThyssenKrupp yn arwain at werthu neu gau rhannau o’r busnes.
Dywedodd, “’Rydym wedi gweld o flaen ThyssenKrupp penderfynu’n sydyn ar dynnu allan o sectorau. Mae’n bosib iddynt benderfynu ein cymryd drosodd ac yna ein cau ac wedyn symud eu holl gynhyrchu dur i gyfandir Ewrop. ’Rwyn erfyn ar Lywodraeth y DU i gyd-weithio â Llywodraeth Cymru er mwn darparu yr amodau gorau posib i sicrhau bod ThyssenKrupp yn cadw ein diwydiant dur yma yng Nghymru.”