
LLongyfarchiadau i ddisgyblion Ysgol Bryngwyn ar gael eu gwobrwyo am eu hymdrechion i hybu dysgu ieithoedd modern fel rhan o fenter Llwybrau Ieithoedd Cymru. Yn ystod y rhaglen, tan gyfarwyddyd ysbrydoledig eu Pennaeth Ieithoedd, Ms Tonia Antoniazzi, maent wedi dysgu sut i fod yn genhadon ieithoedd trwy weithgareddau sydd wedi cynnwys gwneud fideo.
Rhan o’r wobr oedd taith i Lundain gan gynnwys ymweliad â Th? Ewrôp a dau D?’r Senedd lle cyfarfyddent â Nia Griffith AS sy’n gadeirydd y Gr?p Seneddol Hollbleidiol ar Ieithoedd modern ac Ysgrifennydd y Gr?p, Philip Harding-Esch o’r British Council. Cafodd y disgyblion eu llongyfarch ganddynt ar eu gwaith.
Tra oeddent yn y Senedd, gallasant fynd i Siambr y T? Cyffredin lle mae ASau’n cymryd rhan mewn dadleuon ac hyd yn oed sefyll lle mae’r Prif Weinidog yn sefyll yn ystod cwestiynau i‘r Prif Weinidog cyn mynd mewn i oriel T?’r Arglwyddi i wylio dadl yr Arglwyddi.