Home > Newyddion > Galwad am eglurhad ar y Lefi Prentisiaeth

Mae Nia Griffith AS wedi bod yn galw am eglurhad oddi wrth lywodraeth y DU ar sut mae’r lefi ar brentisiaeth yn mynd i weithio.

Esboniodd Nia, “Mae cwmnïau sy’n gweithredu yng Nghymru yn gorfod talu’r lefi prentisiaeth sy’n mynd i drysorlys y DU. Mae’n hanfodol ein bod ni yma yng Nghymru yn gweld yr arian yma’n dod nôl i Gymru er mwyn i ni ddarparu prentisiaethau yma. Mae gan gwmnïau Cymreig, Colegau Cymru sy’n darparu cyrsiau prentisiaethau a Gweinidogion Llywodraeth Cymru bryderon bod llywodraeth y DU wedi bod yn rhy araf i weithio allan y manylion ar sut mae’r lefi’n mynd i weithio. Dyma pam yr wyf wedi codi’r mater yn y slot seneddol ar gyfer  cwestiynau i’r Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau’r senedd ac ‘rwyn dal  i ddilyn y mater â’r llywodraeth er mwyn sicrhau ein bod ni’n gweld gweithredu ac nid geiriau cynnes yn  unig.  ‘Rydym am sicrhau nad oes neb yng Nghymru yn colli allan o ganlyniad i’r newidiadau yma.

Dyma beth ddywedais,

“Mae Cymru hefyd yn cynnig cyfleoedd ar gyfer prentisiaethau, ond mae cyflogwyr a cholegau Cymru yn poeni sut bydd lefi’r prentisiaeth yn mynd i weithio. Pa drafodaethau diweddar  gafodd y gweinidog â Julie James AC, gweinidog Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am brentisiaethau a phryd mae e’n disgwyl i’r cynllun ddod i ben?’

A dyma sut ymatebodd  Gweinidog  y Llywodraeth Nick Boles.

‘Mae’r aelod anrhydeddus yn gofyn cwestiwn teg.  Cefais drafodaeth â’r Gweinidog Cymreig cyn yr etholiad. Achosodd hyn i’r materion cael i’w gohirio am ychydig. Mae wedi bod cysylltiadau dwys ar lefel swyddogol nid yn unig rhwng Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, llywodraethau Cymru a’r Alban, ond hefyd llywodraethau eraill  ar sut mae’r lefi mynd i weithio o ran codi treth ond yn ogystal â’m swyddogion ar sut mae’r lefi’n  mynd i weithio. Byddwn yn cyhoeddi mwy o fanylion cyn toriad yr  haf.