Home > Newyddion > Disgyblion Ysgol Gymraeg Parc y Tywyn yn ymweld â San Steffan

Parc y TwynYmwelodd disgyblion a staff Ysgol Gymraeg Parc y Tywyn, Porth Tywyn â San Steffan yr wythnos hon, ynghyd â’u “Tywysydd Teithiau,” Mr. Emyr Phillips, sy’n adnabyddus â llawer o drigolion Porth Tywyn trwy ei gyn fusnes yn Asiantaeth Deithio. Tra eu bod yno, cyfarfyddent â Nia Griffith AS a’r Arglwydd Leslie Griffiths o Borth Tywyn.    Cafodd yr ymwelwyr eu hebrwng gan Nia o gwmpas y senedd, a gawsant weld lle mae’r Frenhines yn cyrraedd ar gyfer Agoriad Swyddogol y Senedd, yn ogystal â’r Siambr ac ardaloedd pleidleisio’r T?’r Arglwyddi a theras y T? Cyffredin, lle cawsant  olygfa ysblennydd o’r Afon Tafwys.

Yna, cafodd y gr?p ei dywys gan Nia i’r lobi Ganolog lle cawsant weld gorymdaith y Llefarydd ar y ffordd i Siambr y T? Cyffredin a chlywed y bloedd “Hats off Strangers” sy’n datgan nesâd y Llefarydd. Yna, dyma ddiwedd y daith gydag ymweliad i Gapel St Mary Undercroft yng nghwmni’r Arglwydd Leslie Griffiths o Borth Tywyn, a gymrodd ei deitl pan ddaeth yn aelod o D?’r Arglwyddi ychydig o flynyddoedd yn ôl.