Ymunodd Nia Griffith AS ag aelodau PCS a chynrychiolwyr y grwp ymgyrchu 38 degrees er mwyn cyflwyno deiseb â thros 200,000 llofnod i Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau, Llywodraeth y DU, yn galw ar y Lywodraeth i roi’r gorau i gynlluniau i breifateiddio’r Gofrestrfa Tir, sydd â’i phrif swyddfeydd yn Abertawe.
Gan siarad yn gynharach yn y Senedd ar y cynnig, dywedodd Nia,
“Lladrad noeth fyddai preifateiddio’r Gofrestrfa Tir, gan ddwyn miliynau o bunnoedd oddi wrth y trethdalwyr. Ar hyn o bryd mae’r Gofrestrfa Tir yn golygu elw i’r Trysorlys o filirynau o bunnoedd bob blywddyn, ac felly gwallgofrwydd fyddai cymryd hwn oddi wrth y Trysorlys a’u stwffio i mewn i bocedi’r contractwyr preifat a fyddai wedyn yn fwy na thebyg yn rhwbio halen ar friw trwy godi ffïoedd a chymryd mantais o’r cyhoedd. A phwy a ?yr efallai byddai’r Llywodraeth Torïaidd hon yn ddigon di-glem i werthu’r Gofrestrfa Tir am bris anhygoel o isel fel y gwnaethant yn achos y Bost Frenhinol gan amddifadu’r gronfa gyhoeddus o werth cyfiawn yr asedion hyn?
A dyna cyn dod at achos ymddiriedolaeth: ar hyn o bryd yn ôl arolwg boddhad defnyddwyr y gwasanaeth mae 98% yn fodlon ac mae pobl yn ymddiried yn y Gofrestrfa Tir gan eu bod yn gwybod ei bod yn ddiduedd fel mae disgwyl i gorff llywodraethol fod. Sut at y ddaear byddai modd gwarantu nad oes gwrthdaro buddiannau pan fo cwmni preifat yn yr achos. A fyddai cwmni preifat â swyddfeydd yn Abertawe neu a fyddai trafod y busnes yn digwydd mewn lle anghysbell, filltiroedd i ffwrdd lle nad oes modd gwahaniaethu rhwng dau enw Cymraeg? A dyna i chi achos diogelu data. ’Rydw i ar ddeall bod dim byd yn y gyfraith i atal cwmnni preifat rhag gwerthu data personol i brynwyr sydd am y wybodaeth. Mae’n rhaid wrthod unrhyw ymdrech i breifateiddio’r Cofrestrfa Tir neu ail-ddiffinio’r Gofrestrfa Tir yn“gwmni tan berchnogaeth y Llywodraeth.” Dyna fraenaru’r ffordd at breifateiddio.