Yn ddiweddar, ymunais ag Alan Johnson AS i siarad yn lansiad Cymru o “Lafur i mewn dros Brydain.” A dyma pam.
I gychwyn , boed dros ein diwydiant dur neu dros ein busnesau eraill a diwydiannau cynhyrchu sy’n all-forio yn uniongyrchol neu mewn modd arall i’r Undeb Ewropeaidd, mae’n hanfodol ein bod yn aros yn yr UE fel bod gennym fynedfa uniongyrchol, heb rwystrau, i farchnad llewyrchus iawn yr UE. Ar hyn o bryd ’rydym yn allforio nwyddau gwerth £5 biliwn o Gymru i wledydd eraill yr UE bob blwyddyn.
Yn bellach, pe baem yn ymadael, yn fuan byddwn yn weld ein cwmnïau rhyngwladol cynhyrchu yn symud gwaith o’u ffatrïoedd yma i gyfandir Ewrop gan eu bod yn dymuno sefydlu eu hunain y tu mewn i’r UE, y farchnad sengl fwyaf yn y byd. Felly, mae’n angenrheidiol ein bod yn aros yn yr UE.
Mae cyd-weithio â gwledydd eraill y tu mewn i Ewrop yn golygu ei bod yn haws ac yn fwy effeithiol i weithredu na fyddai ‘n wir pe byddwn yn ceisio ar ein pennau ein hunan i atal dympio dur o Tsiena. Mae’n warthus bod y Llywodraeth Torïaid yn rhwystro diwygiadau pellach a fyddai’n galluogi’r UE i gymryd camau mewn da bryd o amser yn erbyn lluchio mewnforion rhad.
Mae bod yn yr UE yn diogelu hawliau gweithwyr o Brydain, megis absenoldeb â thâl, deddfau yn erbyn gwahaniaethu ar seiliau annheg, amddiffyn i hawliau pan fo perchnogaeth cwmnïau yn newid ac amddiffyn gweithwyr y sector cyhoeddus pan fo eu swyddi naill ai yn cael eu preifateiddio neu eu di-arddel. Pe byddai’r DU y tu allan i’r UE, byddai’n rhy hawdd o lawer i Lywodraeth asgell dde i ddatod a diddymu’r hawliau hyn.
Fel ym mhob math o lywodraeth neu sefydliad, mae cyfrifoldeb arnom eu gwneud yn fwy effeithiol ac ymarferol ac nid yw’r UE ddim yn eithriad. Ond llawer gwell yw defnyddio ein dylanwad sylweddol y tu mewn i’r UE yn lle gweiddi o’r tu allan.