Home > Newyddion > Nia’n ymateb i Bil Cymru

Dywedodd Nia Griffith AS, Ysgrifennydd a Llefarydd Llafur Cymru yn San Steffan, wrth  ymateb i gyhoeddiad Bil Cymru:

“Mae Llafur yn croesawu cyhoeddiad Bil Cymru ac edrychwn ymlaen at ei graffu mewn manylder. Fel y blaid a sefydlodd y Cynulliad ’rydym yn awyddus i weld datganoli yn gryfach â mwy o bwerau yn cael ei datganoli o San Steffan i Gymru.

“Yn gynharach eleni, dywedais yn hollol eglur ni fyddai Llafur ddim yn cefnogi bil a gymerodd pwerau oddi wrth Gymru gan ei wneud yn anos i’r Cynulliad gyflawni ei waith. ’Rydym yn  blês  bod Ysgrifennydd Cymru yn ôl pob tebyg wedi gwrando ar y feirniadaeth ddilys a wnaethpwyd o Bil drafft Cymru a’i fod wedi  cyflawni darn newydd sbon o ddeddffwiaeth.

“Yr ydym i gyd am weld cytundeb ar ddatganoli i Gymru  yn glir, yn ymarferol  ac yn para. Gobeithiaf o galon y bydd y Bil hwn yn fodd i wireddu’r amcanion hyn.”