Mae Nia Griffith AS yn cefnogi cant y cant y ddeiseb gyhoeddus a drefnir gan grwp o ymgyrchwyr sy’n dioddef effaith andwyol oherwydd newidiadau yn oedran rhai menywod sy’n derbyn pensiwn y wladwriaeth , sef y sawl a aned yn y 1950au ar neu ar ôl y 6ed Ebrill 1951. Mae’r ymgyrch Women Against State Pension Inequality (WASPI) sef Menywod yn Erbyn Anghydraddoldeb Pensiwn y Wladwriaeth, yn gobeithio creu yr ergyd mwyaf trwy ofyn cynifer o ASau â phosib i gyflwyno deiseb yn y Senedd ar yr un pryd ar yr un diwrnod.
Esboniodd Nia, “Codais yr achos nôl yn 2011 yn ystod cwestiynau’r Prif Weinidog ond ’roedd yn amlwg nad oedd y Prif Weinidog yn sylweddoli pa mor ddig fyddai menywod pan welsant y manylion am yr effaith. ’Rwyn cefnogi deiseb WASPI fel un ffordd o wneud y Llywodraeth sylweddoli’r problemau a achosir gan gyflwyno trefniadau pontio tecach. Nid yw ond teg ac iawn unioni oedran pensiwn dynion a menywod. Serch hynny, yn ôl cyngor proffesiynol mae angen o leiaf rhybudd o 15 blwyddyn o newidiadau yn yr arfaeth er mwyn i bobl cynllunio’n briodol. Mae’r modd o gyflwyno’r newidiadau yn sgil Deddf Pensiynau 2011 yn golygu bod menywod a aned ar neu ar ôl y 6ed Ebrill 1951 yn gorfod aros yn hwy cyn hawlio pensiynau’r wladwriaeth gyda llai o gyfle i drefnu ar gyfer y newidiadau hyn.”
Yn ogystal, cynhelir tri chyfarfod gan Nia Griffith AS ar y mater hwn sef sicrhau gwell drefniadau pontio ar gyfer menywod sy’n dioddef oherwydd y newidiadau hyn; manylion fel a ganlyn.
6 yr hwyr Dydd Gwener, 10fed Mehefin, Neuadd y Pensiynwyr, Porth Tywyn; 6 yr hwyr Dydd Llun 20fed Mehefin Neuadd y Tymbl; a 6 yr hwyr Dydd Mawrth 21ain Mehefin Neuadd Stryd Paddock, Llanelli.
Cewch lawrlwytho copïau o’r ddeiseb o wefan WASPI http://www.waspi.co.uk/ a chewch copïau dwyieithog o swyddfa Nia, ffôn 01554 756374.
Dim ond deisebau wedi’u arwyddo gan breswylwyr yr etholaeth a ellir cael eu cyflwyno gan AS yr etholaeth. Felly, os nad ydych yn byw yn etholaeth Llanelli, bydd yn rhaid I chi gysylltu â’ch AS eich hunan.