Wrth ymateb i Araith y Frenhines, dywedodd Nia Griffith AS, Llefaryddd Llafur Cymru, “Mae’n glir bod David Cameron am daflu tywod at ein llygaid gan siarad am gyfleoedd bywyd yn lle rhyfel cartref y Torïaid dros refferendwm yr UE. Ond mae ei lywodraeth wedi tan-seilio cyfleoedd bywyd pobl gyffredin dros y chwe blynedd diwethaf ac nid oedd dim yn Araith y Frenines eleni i newid hwnnw.
“Cefais fy siomi wrth glywed dim o gwbl am y prosiectau craidd sydd eu hangen ar Gymru fel trydaneiddio y reilffyrdd yng Ngogledd a De Cymru, neu gefnogi Môr-lynnoedd Llanw Abertawe.
“Yr oedd cyfeiriad at sefydlu setliad datgoli cryf sy’n para i Gymru. Mawr obeithiaf mai dyma’r hyn fydd yn cael ei sicrhau gan Bil Cymru Newydd. Edrychwn ymlaen at graffu ar fanylion y Bil newydd pan ddaw o flaen y Senedd.”