Lansioedd Nia Griffith AS a Dawn Butler AS yn ddiweddar ymgyrch Twyll y Rhagdaliad yng Nghymru gan alw ar gwmniau ynni i gyflwyno tariff tecach i ddefnyddwyr nwy a thrydan trwy fesuryddion rhagdaliad.
Ar hyn o bryd mae cwsmeriaid sy’n talu am nwy a thrydan trwy fesuryddion rhagdaliad yn gwario rhwng £260 a £330 y flwyddyn yn fwy na’r rhain ar y tariff rhataf gyda debyd uniongyrchol.
Yn aml mae cwsmeriaid mesuryddion rhagdaliad mewn swyddi cyflog isel ac mae llawer yn derbyn mesuryddion rhagdaliad i’w cynorthwyo i fyw yn gallach yn ariannol; mae’n anhygoel felly y gall y tariff ar gyfer mesuryddion rhagdaliad fod cymaint yn uwch nag ar gyfer cwsmeriaid debyd uniongyrchol.
Medd Nia: “Mae ffigurau’n drysu rhywun: mae un allan o bob pump teulu yng Nghymru, rhyw 273,00 i gyd, ar fesuryddion rhagdaliad.Credaf fod y diwydiant ynni ar hyn o bryd yn gwahaniaethu’n annheg yn erbyn y cwsmeriaid hyn. Mae angen diwygio’r marchnadoedd ynni i atal cwmniau rhag codi tâl afresymol. ‘Rydym yn gweld sefyllfa lle mae’r rhai mewn mwyaf angen gan gynnwys yr hen a’r rhai mewn angen ariannol yn talu mwy am eu tanwydd na neb arall. Mae hwn yn warthus ac felly ‘rydym yn galw ar gwmniau ynni i weithredu ar frys er mwyn unioni’r cam hwn
Fel rhan o Ymgyrch Twyll y Rhagdaliad Llafur ’rydym am weld y newidiadau hyn:
Gostyngiad ym mhris mesuryddion rhagdaliad yn unol â chost y tariff tanwydd rhataf â debyd uniongyrchol.
Gweld diwedd ar gasglu dyledion yn ystod y gaeaf.
Mesurau mewn lle i wneud yn siwr bod cartrefi sy’n cynnwys pensiynwyr, pobl anabl a phlant heb fesuryddion rhagdaliad.
Gweld diwedd ar osod mesuryddion rhagdaliad yn ystod y gaeaf.
Rhoi blaenoriaeth i gwsmeriaid wrth gyflwyno mesuryddion deallus yn y DU.
Mae gan yr ymgyrch dros 6,000 llofnod a chewch arwyddo yma. https://www.change.org/p/david-cameron-mp-end-the-prepay-rip-off-prepay-fuel-bills-cost-226-a-year-more-than-direct-debit
Symudwch y llygoden dros y map rhyngweithiol a welir isod er mwyn gweld Twyll y Rhagdaliad.