Home > Newyddion > Arweinydd Llafur Jeremy Corbyn AS yn ymweld â Phorth Talbot

JC at Tata steelDal Ein Dur

Wrth gyflwyno’r diweddaraf ar yr ymateb i gyhoeddiad  Tata Steel , dywedodd Nia Griffith AS,

 “Mae cyhoeddiad Tata Steel yn peri pryder mawr i weithwyr dur a’u teuluoedd a’r llu o bobl eraill yn ein cymunedau â’i swyddi yn dibynnu ar gadw y Gwaith Dur ar agor.

Mae’n hanfodol bod Llywodraeth y DU yn ymateb yn syth er mwyn cynnig y cymorth angenrheidiol ac hefyd yr amodau priodol i ddenu prynwr addas. Felly, fel grwp o ASau dur, ‘rydym wedi gofyn am gyfarfod brys â’r Ysgrifennydd Busnes Sajid Javid AS ac Hans Fischer, Prif Weithredwr Tata Steel Ewrop, i wneud yn siwr bod pob ymdrech a wneir i ddenu a chynnal prynwr.

Ymwelodd Arweinydd Llafur Jeremy Corbyn AS â Phorth Talbot i gyfarfod â chynrychiolwyr Undeb, ac fel ASau Llafur mynnwn fod y Prif Weinidog, David Cameron, yn ail-alw’r Senedd gan fod amser yn brin a phwysigrwydd dur yn strategol hanfodol. Byddai colli’r gallu i wneud dur yn creu probemau hir-dymor yn y DU.Rhowch eich llofnod ar   petition.parliament.uk/petitions/126128.

‘Rydym yn gofyn i Weinidogion y Goron i gymryd sylw o’r hyn mae’r diwydiant ac ASau dur wedi bod yn dweud dros y blynyddoedd, sef na ddylai’r Canghellor wedi gosod treth carbwn môr uchel yn 2010, bod angen gweithredu cryfach yn erbyn lluchio dur o Tsiana  a bod angen buddsoddiad sylweddol ar frys mewn prosiectau strwythurol sy’n defnyddio dur o Brydain.

Mae’n rhaid i bawb gyd-weithio er mwyn gwneud popeth yn ein gallu i achub ein diwydiant dur. Mae Prif Weinidog Llywodraeth Cymru Carwyn Jones AC a ‘r Gweinidog Busnes Edwina Hart wedi addo eu cefnogaeth llawn i ddod o hyd i opsiynau ymarferol ar gyfer dyfodol cynaladwy,  a chynhelir  Gweithlu Tata Ddydd Llun nesaf.

Yma yn  Llanelli, mae gan Gwaith Dur Trostre weithwyr galluog ac ymroddgar sydd wedi dangos yn y gorffennol  bod ganddynt y gallu i sicrhau marchnadoedd newydd ac i wneud y gwaith yn fwy cystadleuol trwy gyflwyno’r cyfnod o ddwy wythnos o ymbaratoi ar gyfer manyleb newydd. Bydd hyn er lles unrhyw brynwr. Mae’n hanfodol bwysig ar hyn o bryd bod Llywodraeth y DU yn cynnig y gefnogaeth angenrheidiol ynghyd â’r amodau priodol er mwyn denu prynwr addas.”