Rhoddodd disgyblion Bryngwyn sy’n llys-genhadon i hybu pwysigrwydd dysgu ieithoedd tramor, wahoddiad i Nia Griffith i gymryd rhan mewn fideo sy’n dangos yn eglur y cyfleoedd sy’n agor wrth siarad iaith tramor. Penderfynodd y disgyblion ofyn Nia i gymryd rhan ar ôl ei chlywed yn siarad mewn digwyddiad a gynhaliwyd ar y cyd ag ysgolion eraill yngl?n â dysgu ieithoedd. Cyn dod yn AS, dysgodd Nia ieithoedd mewn ysgolion lleol, ac mae wedi yn ogystal gweithio tramor yn Ffrainc, yr Eidal a Gwlad Belg.
Wrth siarad am y cyfweliad, dywedodd Nia,
“’Roedd yn union fel cyfweliad proffesiynol ar deledu byw. ’Roedd y disgyblion wedi ymbaratoi’n drylwyr ac yn amlwg wedi meddwl yn ddwys am eu cwestiynau. ’Roeddwn yn awyddus i bwysleisio nad yw dysgu iaith ddim ond i’r sawl sydd am arbenigo mewn ieithoedd ond yn allu defnyddiol i bawb. Gyda chymaint o brynu a gwerthu rhyngwladol a theithio, mae amrywiaeth o swyddi o sylwebydd chwaraeon neu asiantaethiau teithio neu fusnes a masnach lle mae’r gallu i siarad iaith arall yn fantais. Wrth gwrs, nid ydym ddim yn gwybod pan ydym yn ifanc pa ieithoedd fydd ei hangen arnom yn ddiweddarach, ond unwaith mae un iaith wedi’i meistroli, mae’n haws dysgu un arall.