Home > Newyddion > Jeremy Corbyn yn ymweld á Gwaith TATA

Tata with Jeremy CorbynYmunodd Jeremy Corbyn AS, Arweinydd y Blaid Lafur, a Nia Griffith Llefarydd y Blaid Lafur ar Gymru, ar ymweliad â gwaith dur Troste, Lanelli.
Teithiodd Jeremy a Nia o gwmpas y gwaith gan gyfarfod â rheolwyr TATA a chynrychiolwyr undeb i drafod yr her sy’n wynebu’r diwydiant dur.
Ar ôl yr ymweliad, dywedodd Nia:
“’Rwyn falch bod amser gan Jeremy amser i ymweld â gwaith TATA ac i gyfarfod á llawer o’r dynion a’r menywod sy’n gweithio yno.
“Cawsom drafodaeth werthfawr iawn â chynrychiolwyr yr undebau llafur Unite a Community a amlinellodd y sefyllfa ddyrys sy’n wynebu’r diwydiant. Nid oedd ganddynt ddim amheuaeth bod lluchio dur rhad o Tsiena ac hefyd costau ynni afresiymol o uchel yn rhoi pwysau annioddefol ar sector dur y DU.
“Bydd Jeremy a finnau’n dal i bwyso ar Lywodraeth y DU bod amser llaesu dwylo drosodd a bod yn rhaid cymryd yr argyfwng yn y diwydiant dur o ddifrif. Credwn heb os nac onibai bod yn rhaid i Llwodraeth Prydain wneud llawer yn fwy er mwyn gwireddu ein dymuniadau.”