Ymunodd Nia Griffith AS ag aelodau eraill Cabinet Llafur yn Dagenham y mis hwn i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, a rhan undebau llafur wrth hybu hawliau menywod. Yno cyfarfyddon nhw a menywod a gymrodd rhan yn streiciau Ford Dagenham yn y 1960au, sydd erbyn hyn wedi eu dramateiddio yn y ffilm ‘Made in Dagenham,’ cam ymlaen mewn cyfartaledd menywod yn y gweithle.
Cyfle yw Diwrnod Rhyngwladol y Menywod i ddathlu llwyddiannau menywod ac i gydnabod y camau a wnaed hyd yn hyn mewn hawliau a rhyddid menywod. Ar draws y DU mae enghraifftiau o fenywod yn dod at eu gilydd ac yn newid pethau er gwell mewn amodau yn y gweithle, yn y gymuned, fel arweinwyr busnes ac yn eu hundebau.
Gall Llafur ymfalch?o yn ei hanes gref ar hyrwyddo hawliau a rhyddid mewywod. Mae bron pob darn o ddeddfwriaeth sydd wedi gwella bywydau menywod mewn gwaith wedi dod oherwydd Llywodraeth Lafur. Llafur sy’n gyrifol am Ddeddfwriaeth Cyfle Cyfartal, y Gyfraith Gwahaniaethu, y Ddeddf Cydraddoldeb a’r isafswm cyflog.
Tra bod 8fed Mawrth yn cydnabod pa mor bell rydym wedi dod yn y frwydr dros gydraddoldeb rhyw, mae’n rhaid hefyd cydnabod pa mor bell sydd gennym i deithio yn y DU ac yn rhyngwladol. Ein her yw datblygu’r llwyddiannau’r gorffennol gan frwydro am gydraddoldeb cyflawn i fenywod: yn ariannol, yn y gweithle, mewn teuluoedd a chartrefi ac mewn mannau cyhoeddus.