Yn rhy aml mae’r drafodaeth am aelodaeth Prydain o’r UE yn cael ei chynnal mewn modd sy’n anesmwyth a di-gyswllt. Hawdd yw sôn yn arwynebol am y ffordd mae‘r UE yn cynnal rhyw 200,000 o swyddi yng Nghymru. Y gwir plaen amdani, petawn ni’n gadael yr UE diflannu fyddai hanes y mwyafrif o’r sywddi hynny. Byddai llawer o weithwyr yn wynebu colli gwaith a chymaint yn anos fyddai i bobl ifainc ddod o hyd i waith neu brentisiaeth yn lleol.
Nid codi bwganod yw hwn: mae gweithwyr yma yn Llanelli wedi gweld sut mae ein cynhyrchwyr mawrion eisoes yn cystadlu y tu mewn i’w cwmniau am fuddsoddiad newydd yn erbyn lleoliadau eraill yr un cwmni ar gyfandir Ewrop. Pe byddwn yn gadael yr UE byddwn yn weld yn fuan cwmniau yn gorffen buddsoddi yma, gan gynyddu eu cynnyrch ar gyfandir Ewrop, symud eu llinellau cynhyrchu a lleihau yn sylweddol eu gwaith yn y DU. Pam buasent yn dymuno sefyll y tu mewn i DU ymynysol â phoblogaeth marchnad o 60 miliwn yn unig? Dyna’r rheswm, wedi’r cyfan, oherwydd ein bod yn aelod o’r UE bod llawer o gwmniau wedi dewis sefydlu yng Nghymru, gan roi iddynt fynedfa i’r farchnad unedig fwyaf yn y byd gyda phoblogaeth o dros 500 miliwn.
Ar y llaw arall, dylwn yn wastad chwilio am ffyrdd i wella sut mae ein Llywodraeth a’n sefydliadau’n gweithredu, ac nid eithriad mo’r UE. Nid cymaint yn y manylion mae pwysigrwydd trafodaethau’r Prif Weinidog, ond yn hytrach yn y ffaith bod y DU am weitho’n ddiwyd er mwyn diwygio’r UE ac ar ben hynny mae gan y DU lawer o ddylanwad o hyd yn Ewrop. Ond i ddefnyddio dylanwad mae’n rhaid bod yno. Mae’n rhaid cadw eich gafael ar sêt y bwrdd top. ’Rwyf am ddiogelu swyddi yn Llanelli ac felly byddaf yn bwrw pleidlais er mwyn aros y tu MEWN i’r UE.