Mae Nia Griffith AS yn ymuno â thrigolion Bynea sy’n protestio ynglyn â chynlluniau arfaethedig i godi tai ar leoliad Fferm Genwen rhwng Ffordd Penderri a Nantwen
Wrth siarad am gais cynllunio rhif S/33342, dywedodd Nia Griffith,
“Mae’n anhygol ar ôl nodi peryglon traffig fel rheswm dros wrthod cais am 41 o dai yn Heol yr Orsaf, Bynea bod y sawl â chyfrifoldeb am gynllunio hyd yn oed yn ystyried y cais hwn am 240 o dai a fydd yn creu mwy o lawer o draffig. Yn ôl y trigolion mae llawer o ddamweiniau wedi digwydd a gallant ddangos y waliau a ddymchwelwyd. Mae’n bryd hefyd i’r Pwyllgor Cynllunio astudio effaith tymor-hir y datblygiad ar y tai yn y Bynea yn barod. Mae perchnogion tai eisoes wedu dioddef sawl gwaith galar llifogydd carthffosiaeth ac o ddwr wyneb-yr-hewl. Pe byddant yn codi stad anferth o dai ar gaeau Genwen yr effaith fydd cynnydd sylweddol yn y dwr o’r toeau, heolydd a mynedfeydd gerddi a thai. Bydd y cyfan yn rhedeg i lawr y tripiau serth i’r tai islaw. Mae’r carthffosiaeth tan bwysau yn barod a gwaeth fydd y sefyllfa ar ôl hwn. Mawr obeithiaf y bydd y Pwyllgor Cynllunio yn dod at eu synhwyrau ac yn ei lluchio allan unwaith eto.”