Pleser Nia Griffith AS Llefarydd Llafur ar Gymru, oedd agor, yn ddiweddar, Hwb Cymunedol Cydweli yn adeilad cyn Pelican yng nghanol Cydweli.
Wrth sôn am agor Hwb Cydweli, dywedodd Nia,
“Hoffwn longyfarch Jon Hobden am ei weledigaeth a’i egni wrth sefydlu Hwb Cydweli a dweud diolch wrth bawb sydd wedi cefnogi’r prosiect hyd yn hyn. Bydd yn darparu ystod eang o wasanaethau yma yng Nghydweli, fel ni fydd ddim angen teithio milltiroedd i Lanelli neu Gaerfyrddin, boed er mwyn defnyddio y nifer cynyddol o wasanaethau’r Llywodraeth sydd ar gael yn amlach na beidio yn arlein, gan gyfeirio at y gwasanaethau cymorth priodol neu er mwyn rhoi i drigolion hen a newydd Cydweli y cyfle i gymdeithdasu a threfnu gweithgareddau ar y cyd. Mae gan Gydweli o hyd deimlad o fod yn gymdeithas go iawn, a bydd y Hwb yn fodd i gadarnhau hynny.”
Gwasanaethau a ddarperir gan Hwb Cymunedol Cydweli:
Cyfeirio – gwneud yn siwr bod pobl ag anghenion yn cyfarfod â’r bobl sydd â’r gallu i drafod yr anghenion hynny.
Defnyddio cyfrifiadurion.
- Gwybodaeth – rhoi gwybodaeth ar bynciau lleol neu gymunedol.
- Twristiaeth – gwybodaeth i dwristiaid gan hybu busnes lleol.
- Lle ar gyfer prosiectau cymunedol..
- Lle ar gyfer pobl h?n ––Prosiect byw â Dementia, Clwb Cinio, Cerdded yn iach. .
- Prosiectau Celfyddydau y Gymuned.
- Cymorth â Gwaith – clwb swyddi, cymorth i’r rhai sy’n ceisio gwaith, hyfforddiant.
- Prosiectau a sefydlir yn yr Hwb yn cynnwys Argraffu Cymunedol Bywyd Sir Gâr, Hwb Hao2am hyfforddiant Rhith-Wirionedd a Chymorth Awtistiaeth, Prosiect rhith-wirionedd man-geni Dylan Thomas.
- Hyfforddiant i gynorthwyo unigolion a busnesau yn yr ardal.
- Lle mynedfa leol ar gyfer rhaglen ynni NEST y Llywodraeth.
- Syrjeris AS, AC, Cynghorwyr Sir a Thref
- Ynni Cydweithredol Cwm Gwendraeth