Home > Newyddion > Cyfarfod â Jeremy Corbyn yn San Steffan

Jeremy Corbyn members visitO Gymru benbaladr daeth yr hen a’r ifainc yn ddiweddar i gyfarfod â Jeremy Corbyn AS ac aelodau Cabinet yr Wrthblaid yn Nhau’r Senedd. Ar ôl geiriau byr o groeso gan Nia Griffith AS, Llefarydd Llafur Cymru,  cafodd ymwelwyr y cyfle o wrando ar Lisa Nandy AS, Llefarydd Llafur ar Newid Hinsawdd ac Ynni yn siarad ac yn ateb cwestiynau ar bolisïau Llafur ar ynni a newid hinsawdd. Yna, pan ganodd y gloch yn alwad i bleidleisio, esboniodd y Farwnes Eluned Morgan, llefarydd Llafur ar Gymru yn Nhy’r Arglwyddi, sut oedd Llafur gyda chefnogaeth Democratiaid Rhyddfrydol a rhai o’r croesfeincwyr yn Nhy’r Arglwyddi wedi maeddu rhai o elfennau mwyaf eithafol rhaglen ddeddfwriaithol Llywodraeth y Ceidwadwyr.

Yna, gyda’i wynt yn ei ddwrn, dychwelodd Jeremy Corbyn AS, Arweinydd y Blaid Lafur i gyfareddu ei gynulleidfa gyda’i siarad plaen a’i haelioni amser wrth sgwrsio ag unigolion.  Gwnaeth llawer o’r ymwelwyr achub ar y cyfle i ddiweddu’r noson gyda thaith o gwmpas y Senedd cyn dychwelyd adref.