Gwledd o gerddoriaeth oedd gan Gôr Persain o Sir Gâr mewn cyngerdd ardderchog Nos Lun yn Nau D?’r Senedd. Arweiniodd cyfarwyddwraig cerdd egnïol Anne Wheldon y côr yn gelfydd mewn rhaglen amrywiol a gafaelgar yn cynnwys gwaith megis Anfonaf Angel gan Robat Arwyn a’r Darlun gan Jeffrey Howard, gwaith clasurol gan y cyfansoddwyr Thomas Morley ac Handel yn ogystal â thonau disglair ac i ffwrdd â ni o’r sioeau megis Big Spender ac All That Jazz
Dengys perfformiad y côr bod ganddynt ystod eang a gwybodaeth o gerdd. ’Roedd y perfformaid o Ar Hyd y Nos yn gynnes a melys. Diddanodd y gynulleidfa gan yr Arweinydd Anne gyda’i geiriau diddorol a difyr wrth gyflwyno pob darn tra bod y cyfeilydd ar y piano Catherine Morgan yn rhagori gyda’i chyfeilio deallus a swynol.
Wrth sôn am y perfformiad, dywedodd Nia Griffith AS, Llywydd Anrhydeddus y Côr:
Ystyr y gair Persain yw ‘sain bur’ ac heno roedd lleisiau y menwyod yn syfrdanol gwych. Dyma berfformiad teimladwy a chywrain yn codi calon â lleisiau swynol. Gwn fy mod yn siarad ar ran yr holl gynulleidfa a oedd yn cynnwys Cymdeithas Forgannwg Llundain yn ogystal ag Aelodau’r T? Cyffredin a Th?’r Arglwyddi wrth ddweud ein bod wedi mwynhau noswaith arbennig. ’Rwy wedi bod wrth fy modd yn mynychu llawer o gyngherddau’r Côr dros y blynyddoedd ac nid oedd heno’n eithriad. Mae’r Gyfarwyddwraig Anne Wheldon bob amser yn dangos arweiniad cadarn ac mae arddull arbennig y côr, ynghyd â’i ganu di-gyfeiliant, yn ychwanegu at naws unigryw ac arbennig y noswaith.”
Cafodd Côr Persain ei sefydlu yn 2000. Mae ganddo 26 llais gyda’i wreiddiau’n Rhydaman. Daeth ei CD cyntaf allan yn Rhagfyr 2000 a’i enw “Sing for Joy” yn crynhoi’r athroniaeth bod cerddoriaeth yn hwyl. Mae’r côr wedi perfformio mewn sawl man yn Ne Gorllewin Cymru a thramor. Mae ganddo raglen ar gyfer cyngherddau trwy gydol y flwyddyn, gan ganu mewn nifer o gyngherddau, priodasau, swperi’r cynhaeaf a g?yliau Dewi Sant. Maent yn cyflwyno datganiadau i godi arian dros elusennau ac mae wedi diddanu yn y Gerddi Botanig Cenedlaethol Cymru, G?yl y Synnwyr Llandeilo a G?yl yr Afon Cenarth.