Home > Newyddion > Llafur yn galw am adolygiad brys i fynediad at gyfiawnder yng Nghymru

Meddai Nia Griffith AS, Llefarydd yr Wrthblaid dros Gymru, cyn dadl Llafur yn San Steffan ar fynediad at gyfiawnder yng Nghymru:

“Mae toriadau i gymorth cyfreithiol, ffioedd tribiwnlys a’r cynlluniau i gau llysoedd oll yn gwneud hi’n anoddach i bobl yng Nghymru gael fynediad at gyfiawnder.

“Yn diweddaf gweler cynydd mawr yn nifer y bobl sydd yn cynrychioli eu hunain gerbron llysoedd, menywod Cymreig yn gorfod darbwyllo’r llywodraeth eu bod nhw wedi cael eu camdrin, a phobl diniwed yn pledio yn euog oherwydd nad oedden nhw yn gallu fforddio ffioedd y llys. Nid dyma sut mae rhedeg system gyfreithiol deg.

“Mae angen adolygiad brys i ganfod fel y mae toriadau Llywodraeth y DU i gymorth cyfreithiol wedi effeithio ar fynediad at gyfiawnder.

“Mae Llywodraeth Llafur Cymru wedi buddsoddi mewn canolfannau cyngor i geisio ysgafnhau effaith y toriadau, ond y realiti yw bod pobl ar draws Cymru yn gweld hi’n anoddach i gael cyngor ar faterion fel dyled, tai a materion teuluol.”